google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Gymraes sydd eisiau achub ieithoedd brodorol Ynysoedd y Sianel

Advertisements

Os ewch chi i Jersey, fe welwch chi arwyddion dwyieithog o amgylch y lle; arwyddion Saesneg, sef prif iaith yr ynys, ac iaith sy’n edrych yn debyg i Ffrangeg.

Ond er fod ynys Jersey yn agosach at arfordir Ffrainc nag un Lloegr, nid math o Ffrangeg yw Jèrriais, ond iaith Normanaidd, sy’n debyg i iaith frodorol ardal Normandi yn Ffrainc.

Mae ieithoedd tebyg hefyd ar rai o ynysoedd eraill y Sianel, fel Guernésiais ar ynys Guernsey a Sercquiais ar ynys Sark.

Mae’r Athro Mari C. Jones, sy’n Athro Ieithyddiaeth Ffrangeg a Newid Ieithyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Gymrawd yn Peterhouse, wedi bod yn astudio’r ieithoedd Normanaidd yma ers dros chwarter canrif. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau am y pwnc ac erbyn hyn yn cynghori llywodraethau’r ynysoedd am sut i geisio diogelu eu hieithoedd, gan eu bod bellach mewn sefyllfa fregus iawn.

“Ar ôl gwneud doethuriaeth am effaith cyswllt Saesneg ar y Gymraeg, o’n i eisiau parhau i edrych ar sut oedd ieithoedd mwy ac ieithoedd llai yn effeithio ar ei gilydd,” eglurodd.

“Digwydd siarad gyda rhywun oedd wedi crybwyll Jersey, mynd i’r llyfrgell a gweld os oedd rhywbeth wedi ei sgrifennu am Jersey a Jèrriais, a doedd yna fawr o ddim byd.

“Es i draw i Jersey am fis a dysgu’r iaith a ‘nes i ddechrau drwy sgrifennu llyfr ar y dylanwadau ieithyddol roedd bod mewn cyswllt â’r Saesneg wedi cael ar Jèrriais.

“O’dd pobl yn Guernsey â diddordeb yn beth o’n i’n ei wneud felly mynd yna a dechrau gweithio yn fan’na, wedyn i ynys Sark ac oddi yno i dir mawr Normandi…”


BBC News

Views: 1

See also  Wales' 20mph speed limit: £5m for review after backlash

Check Also

Wales' papers: Missed chance to avoid rail tragedy and £145m plan to save Welsh NHS

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

NHS Wales to get £145m boost for waiting lists and hubs

“What we’re doing is putting money into that early intervention so that we don’t reach …

Why one Gen Z Londoner is allowed to graze sheep on land in the Welsh valleys

Caleb Tutt travelled from Lambeth to a hilltop in Llantrisant to claim his ancient birthright. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport kern ca. Just a moment.... heavy equipment transport genesee mi.