google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y gŵr o Gernyw sy’n barddoni mewn tair iaith

Advertisements

Mae Sam bellach yn gwbl rhugl yn y Gymraeg a’r Gernyweg, ac mae’n teimlo fod dysgu ei famiaith wedi cryfhau’r teimlad o falchder cenedlaethol roedd ganddo erioed am ddod o Gernyw.

“Pan wnes i ddechrau dysgu Cernyweg, o’n i’n gallu deall mwy am yr ardal; ystyr Komm Trevargh ydy rhywbeth fel ‘Dyffryn Tre’r March’, a Lyskerrys (Liskeard) ydy ‘Llys y Ceirw’. Mae hwnna’n dweud mwy am yr hanes, ac o’dd hynny’n ddiddorol.

“Ac er mod i’n dod o ‘Loegr’, fel rhywun o Gernyw ydw i wedi adnabod fy hun erioed.

“O’n i’n dysgu am hanes Cernyw yn yr ysgol, a dysgon ni am Wrthryfel Llyfrau Gweddi 1549, sy’n rhywbeth pwysig yn y byd Cernyweg. Dyna pryd ddywedon nhw wrth siaradwyr Cernyweg bod nhw ddim yn cael llyfr gweddi yn eu hiaith eu hunain. Roedd gwrthryfel fawr, ‘naeth arwain at 10,000 o Gernywiaid yn cael eu lladd.

“Dwi’n cofio dysgu am hwnna a meddwl ei bod hi’n hurt bod ni ddim yn gallu defnyddio ein hiaith ni. Ac roedd hi rŵan 500 mlynedd yn ddiweddarach, a ‘dan ni dal i deimlo yr un math o boen. Pam gawson ni ddim cadw ein hiaith?

“Felly mae dysgu’r iaith wedi rili helpu fi dod i ‘nabod fy hun yn well. Mae’n teimlo fel rhan naturiol o pwy ydw i. Mae llawer o fy ffrindiau i yn dweud “Sam, he’s the Cornish one…“.


BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan set to become first minister of Wales

Check Also

Wales' papers: Boy arrested after body found and school's out

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Abersoch beach hut with no power goes on sale for £200k

A beach hut with no electricity or running water has gone on the market for …

Jilted Swansea bride Kayley Stead who still held wedding gets engaged

When Kayley Stead was left alone at the altar on her big day, she did …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment....