google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Ddadl Fawr: Y pleidiau i gael eu herio a chyfle i weld y dewis ger bron

Fe fydd ‘na 60 yn y gynulleidfa yn yr Egin o bob cwr o Gymru, ac yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Fe fydd canran yn cefnogi pob plaid ac eraill eto i benderfynu sut i bleidleisio – pob un gobeithio yn barod i holi a herio.

Ers wythnosau, mae’r tîm cynhyrchu wedi bod yn gweithio’n ofalus yn gosod sgaffald Y Ddadl Fawr, yn sicrhau cynulleidfa gytbwys ac yn dewis cwestiynau sy’n adlewyrchu pryderon mwya’r etholwyr.

Ar y noson fe fydd ‘na sawl llais yn fy nghlust yn sicrhau bod ‘na degwch o ran cyfraniadau ac eiliadau i’r pleidiau i gyd a’r gobaith yw y byddwn ni’n dysgu mwy am yr unigolion a’u polisiau, a’u heffaith ar ein bywydau bob dydd.

I Richard Nixon ‘nôl yn y 1960au, roedd chwysu dan oleuadau’r stiwdio yn ddigon i golli lle yn y Tŷ Gwyn.

I Nick Clegg yn etholiad cyffredinol 2010 a dadl enwog “I agree with Nick“, roedd ei berfformiad hyderus yn ddigon i danio “Cleggmania” a sicrhau lle i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y llywodraeth.

Mae’r dadleuon yma yn gallu bod yn allweddol, yn ddylanwadol ac yn ddadlennol – maen nhw hefyd yn gallu bod yn ddiflas, yn swnllyd, weithiau’n syrcas – gewn ni weld sut eith hi nos Iau!

Dilynwch Y Ddadl Fawr yn fyw o’r Egin am 20:00 ar 23 Ebrill, ar S4C, BBC Radio Cymru, BBC Sounds, BBC Cymru Fyw a YouTube S4C.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Scarlets: The lowdown on House of Luxury investment deal for Welsh region

Check Also

Racist killers sentences referred to Court of Appeal and drug dealer attacked in French jail

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

T20 Blast: Somerset beat Hampshire on 2026 opening night – round-up of Friday’s nine matches

Yorkshire, who have never lifted the domestic T20 trophy, successfully chased 168 to beat Notts …

T20 Blast: Parfitt’s 86 leads Glamorgan to convincing win at Gloucestershire

Glamorgan went into the game unbeaten in six One Day Cup and T20 County Cup …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime