google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eisteddfod yr Urdd: ‘Braf gweld mwy o sylw i ddysgwyr eleni’

Advertisements

Un arall sydd wedi cael budd o gystadlaethau dysgwyr yr Eisteddfod yw Gwilym Morgan, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Gwnes i ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn 2023 ac ers hynny dwi wedi bod yn gwneud pethau eraill i helpu dysgwyr fel Dysgu Cymraeg i Oedolion a hefyd fy musnes lle dwi’n gwerthu adnoddau i ddysgwyr.”

Wrth ymateb i’r ffaith mai dyma’r flwyddyn sydd â’r nifer fwyaf o gystadlaethau i ddysgwyr, dywedodd: “Dwi’n meddwl mae’n hollol wych achos tua phum mlynedd yn ôl o ni ddim efo clem beth oedd Eisteddfod yr Urdd.

“Mae o’n fyd gwahanol a chael dysgwyr i fynd mewn i’r byd yna, a gweld pa mor fyw yw’r iaith a chael mynediad at y gymuned, mae’n hollol ardderchog.”

Dywedodd fod ennill y fedal honno yn “allweddol yn fy nhaith iaith” ac yn “drobwynt” iddo.

“O ni’n sylweddoli pa mor fawr oedd y Gymraeg, oedd e ddim jyst yn bwnc yn yr ysgol a tra bo fi’n dwli ar ramadeg, mae ‘na gymaint mwy i’r iaith na jyst gramadeg.

“Mae’n rhoi’r cyfle i bawb sy’n dysgu’r iaith i wneud cystadleuaeth sy’n berthnasol iddyn nhw… yn llefaru, canu, beth bynnag.

“Mae ‘na rywbeth ar gyfer pawb sy’n dysgu Cymraeg.”


BBC News

Views: 1

See also  Cyfres yr Hydref: Dechrau siomedig i gyfnod Cymru dan Steve Tandy

Check Also

T20 Blast: Parfitt’s 86 leads Glamorgan to convincing win at Gloucestershire

Glamorgan went into the game unbeaten in six One Day Cup and T20 County Cup …

Heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl gêm bêl-droed yng Ngwynedd

Dywedodd Nantlle Vale mai “siomedig iawn oedd gweld bod dau chwaraewr CPD Nantlle Vale wedi …

Muck spreading ban to protect rivers doesn't work, new minister says

The regulations were championed by river campaigners but angered many farmers across Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime