google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfres yr Hydref: Dechrau siomedig i gyfnod Cymru dan Steve Tandy

Roedd yna ddechrau siomedig i gyfnod Steve Tandy fel prif hyfforddwr wrth i Gymru golli yn eu gêm gyntaf dan ei ofal.

28-52 oedd y sgôr yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn eu gêm agoriadol yng Nghyfres yr Hydref eleni.

Roedd yna chwe chais yn ystod hanner cyntaf cyffrous – pedwar ohonyn nhw gan yr ymwelwyr, oedd yn ffefrynnau pendant i ennill – a phump wedi’r egwyl, sef tri i’r Ariannin a dau i’r tîm cartref.

Fe ddaeth Louis Rees-Zammit oddi ar y fainc i wneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers dwy flynedd.

Ond roedd yna siom pan fu’n rhaid i’r capten dylanwadol, Jac Morgan, adael y cae ar ôl anafu ysgwydd wrth sgorio trydydd cais Cymru.

Golyga’r canlyniad bod Cymru wedi colli 10 gêm gartref o’r bron.

Mwy i ddilyn.


BBC News

Advertisements

See also  Swansea City post record £21.6m loss for year ending June 2025

Check Also

Elfyn Evans defies history to join Britain’s rally greats Colin McRae and Richard Burns with WRC title

For what must have felt like an eternity, Elfyn Evans feared history was repeating itself …

‘Pontio’ parc cenedlaethol yng Nghymru a’r Ariannin ‘am y tro cyntaf’

Cafodd yr anthemau cenedlaethol eu canu, nifer o siaradwyr o wahanol sefydliadau, arwyddo Memorandwm, cyfnewid …

Mari Grug a’r gyfres Amour a Mynydd ymhlith enillwyr BAFTA Cymru 2026

Mae’r actor Matthew Rhys a’r gyflwynwraig Mari Grug ymhlith enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2026. Roedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime