google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ai ysbryd Dylan Thomas fu’n codi ofn yn BBC Abertawe?

Advertisements

Ac awr cyn y darlledu, dechreuodd pethau droi’n rhyfedd, eglurai Daniel.

“O’dd y ddau medium yn dweud fod yr ysbrydion yn y swyddfa, a nawr oedd yr amser i siarad gyda nhw.

“Oedden nhw mewn rhyw fath o trance. ‘Naeth un ddweud bod ‘na dri ysbryd: mam, merch ifanc a hen forwr, oedd wedi cwympo mas. Roedd e’n sgwrsio gyda’r ysbryd oedd tu fewn i’w gorff e.

“Rhaid i mi gyfadde’, ‘nes i chwerthin, ond yn raddol, roedd pethau’n mynd yn fwy difrifol. O’n i’n gallu gweld fod llygad y medium ar gau, ond dros ei lygaid e, o’n i’n gallu gweld llygaid menyw ifanc.

“Wedyn dyma’r hen forwr yn mynd mewn i gorff y medium. O’n i’n gallu gweld barf gwyn ar wyneb y boi, o’dd ddim yn bodoli cyn hynny.

“O’n i’n dal y meicroffons yn recordio pob dim, yn trio bod yn dawel – ond ar y recordiad, dwi’n meddwl allwch chi glywed fi a Kev yn rhoi ebychiad o sioc yr un pryd.”

Nid y bobl oedd yno oedd yr unig rai i brofi’r digwyddiadau rhyfedd; roedd technoleg wedi cael ei effeithio hefyd, gyda sŵn hisian anesboniadwy wedi ymddangos ar y recordiad, a’r gwe-gamera oedd wedi ei osod i weld unrhyw symudiadau ysbrydol, wedi stopio gweithio heb reswm.


BBC News

See also  Christian Fuchs: Newport County name ex-Leicester City defender as new manager

Check Also

Lefelau allyriadau carbon un o siroedd y de ymhlith yr uchaf yn y byd

Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Yng Nghymru ac ar draws y byd, …

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime