google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y cyn-AS Gwynoro Jones yn pledio’n ddieuog i ymosodiad rhyw

4753a1f0 16cf 11f0 9e29 2fa6ec1d5ef4.jpg

Advertisements

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Gwynoro Jones, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw.

Cafodd Mr Jones, 82, ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ’r Cyffredin ym 1970 a 1974.

Ddydd Gwener, fe glywodd Llys y Goron Abertawe honiad fod y cyn-wleidydd a darlledwr wedi cyffwrdd menyw heb ganiatâd tra ar drên ar 11 Mehefin 2024.

Clywodd y llys fod y digwyddiad honedig wedi ei recordio ar gamerâu cylch cyfyng.

Fe wnaeth Mr Jones – o ardal Gorseinon yn Abertawe – bledio’n ddieuog i’r cyhuddiad, gan siarad i gadarnhau ei enw yn unig yn y llys.

Mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau fis Tachwedd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.


BBC News

Views: 0

See also  Wales' papers: Sex offender posed as teacher and man who killed dad

Check Also

Gall ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot gael ei hoedi am hyd at wyth mis

Dywedodd Chatterjee fod y prosiect yn mynd rhagddo gyda gwaith dymchwel mawr wedi’i gwblhau, a …

Gweinidog Iechyd yn mynnu bod modd ‘gweithio o fewn y gyllideb’ a gwella canlyniadau

Yn ôl Mr ap Gwynfor, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu er mwyn …

Dyn 18 oed wedi marw ar ôl damwain ffordd yng Nghaerdydd

Mae dyn 18 oed o Drelái, Caerdydd wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Artificial intelligence hedge fund winthorpe valentine & company.