google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Y cyflwynydd John Hardy i adael y BBC

Mae’r darlledwr John Hardy wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y BBC wedi 48 o flynyddoedd.

Mewn neges ar dudalen Facebook Radio Cymru fore Mercher, dywedodd, “Tydi amser yn hedfan.

“Ar y 5ed o Dachwedd 1979 ‘nes i gerdded yn betrusgar fewn i’r BBC, 48 o flynyddoedd yn ddiweddarach mi fyddai’n ymadael ronyn yn ddoethach ac yn ddiolchgar am y profiad.”

Mae John Hardy yn lais cyfarwydd i wrandawyr sy’n codi’n gynnar ar Radio Cymru ac mae wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen rhwng 05:30 – 07:00 yn ystod yr wythnos ers 2013.

Roedd hefyd yn cyflwyno’r rhaglen archif, Cofio a ddaeth i ben yn 2025 am 19 mlynedd.

Ychwanegodd: “Prin fod neb wedi cael cystal cyfleon ym myd radio a theledu fel ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd.

“Dwi ‘di blasu nhw gyd a theithio’r byd yn grwn. Ond er bod ymhell o gartref [rwy’] wedi morio yn agosatrwydd gwrandawyr Radio Cymru.”

Fe gyhoeddodd John mai ym mis Mawrth y bydd yn gadael a dywed ei fod yn hynod ddiolchgar i’r gynulleidfa sydd wedi bod yn “gefn ac yn gymorth” iddo.

“Hebddo chi fyswn ni ddim wedi para pum munud, heb sôn am bron i bum degawd,” meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Wales 'desperate' for win against Japan to avoid history tag

Check Also

Portugal v Wales quiz: Can you name the Wales XI who faced Cristiano Ronaldo and Co in Euro 2016 semi-final?

Wales face Portugal in the Nations League on Thursday – 10 years after the two …

Teen admits manor arson and dad dies on holiday

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Flintshire village changes name to Pentre Moch – meaning Pigs Village

A rural Welsh village will officially change its name to Pentre Moch – literally translated …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime