google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Chwaer Miranda: Bywyd o wasanaethu Duw a chymuned Caergybi

Advertisements

Mae lleiandy wedi bod ar y safle yng Nghaergybi ers 1907 pan ddaeth chwiorydd yr urdd Le Bon Sauveur – fel oedd ei enw bryd hynny – draw o Ffrainc.

Dyma unig gwfaint yr urdd yng Nghymru, ac mae’r Chwaer Miranda yn cydnabod fod yr urdd wedi lleihau yn aruthrol dros y degawdau, a hynny ledled y byd.

“Mae’n edrych yn dywyll, hyd yn oed yn Ewrop, gyda’r lleianod sydd gyda ni yn Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal – does yna neb yn Ewrop o dan 60 oed. Mae’n lleianod ifanc ni i gyd yn dod o wledydd Affrica neu Madagascar.”

Gyda’r un lleian ifanc i’w dilyn yn y cwfaint yng Nghaergybi, rhaid wynebu’r ffaith felly mai Miranda a’i chyd-chwiorydd fydd y rhai olaf yno. Ond nid yw Miranda yn digalonni’n ormodol am hyn, meddai:

“Rhyw dro, bydd y cwfaint yng Nghaergybi yn cau, ac mae hynny’n drist. Ond ar y llaw arall, os ydyn ni wedi gwneud ein gwaith, mae’n rhaid i ni ddiolch i Dduw.

“Does neb erioed wedi dweud y byddai’r lleiandy yn para’ am byth; dwi ond yn gobeithio y bydd yr eglwys yn para’ am byth.”


BBC News

See also  The two best friends with the same leukaemia cancer diagnosis

Check Also

Health minister calls meeting on Wales transgender surgery pause

A meeting to discuss the decision to immediately pause referrals for gender-affirming surgeries in Wales …

Taulupe Faletau: Cardiff hope Wales number eight will make start of URC

Former Dragons and Bath forward Faletau has played only 30 times for Cardiff since signing …

Natasha Thomas: Forward hoping Jamaica experience can help Wrexham continue rapid rise

Thomas spent over a decade at Ipswich following a 2015 move from Lowestoft Town. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime