google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y cerddor, actor a’r digrifwr Dewi Pws Morris wedi marw

Dewi Gray Morris oedd ei enw bedydd ac fe gafodd ei eni ym mhentref Treboeth ger Abertawe yn 1948.

Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, Llansamlet ac Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, cyn dod i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys.

Hyfforddi fel athro oedd ei gam nesaf, yng Ngholeg Cyncoed, a dysgu am rai blynyddoedd yn Sblot, Caerdydd.

Ond o fewn dwy flynedd roedd â’i fryd ar actio. Dechreuodd ym myd pantomeim a chael swydd lawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru cyn troi at deledu.

Roedd ymhlith cast gwreiddiol Pobol y Cwm, gan chwarae rhan Wayne Harris rhwng 1974 a 1987.

Roedd hefyd yn un o brif gymeriadau’r ffilm deledu chwedlonol, Grand Slam, yn 1978, a’r Dyn Creu yn y gyfres deledu i blant, Miri Mawr.


Source link

Advertisements

See also  'Historic' bill to boost Welsh learners passed in Senedd

Check Also

Pum munud gyda’r tiwtor Cymraeg Nushin Chavoshi-Nejad

Y peth gorau am fod yn diwtor Cymraeg yw gallu helpu pobl i wneud cynnydd …

Cymraes 19 oed i gystadlu ar gyfres newydd Potrait Artist of the Year

Fe fydd artist ifanc o Abertawe a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y pandemig yn …

Rhybudd bod ‘risg uwch na’r arfer’ o lifogydd yr hydref hwn

Mae rhagolygon hir dymor y Swyddfa Dywydd ar gyfer Hydref, Tachwedd a Rhagfyr yn awgrymu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime