google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

West Brom yn penodi’r Cymro Eric Ramsay yn brif hyfforddwr

Advertisements

Mae West Bromwich Albion wedi penodi’r Cymro Eric Ramsay yn brif hyfforddwr newydd.

Mae Ramsay, 34, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gyda’r Baggies – wedi iddyn nhw ddiswyddo Ryan Mason ddydd Mawrth.

Wedi gyrfa fer fel chwaraewr fe ddechreuodd Ramsey ei yrfa hyfforddi gydag Abertawe cyn treulio cyfnodau gydag Amwythig, Manchester United a Chelsea.

Yn wreiddiol o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn cafodd ei benodi yn is-reolwr ar Gymru yn ystod cyfnod Rob Page wrth y llyw, ond fe adawodd y rôl honno ym mis Medi 2023.

Yn fwyaf diweddar mae Ramsay wedi bod yn rheoli Minnesota United yn yr Unol Daleithiau – ei swydd gyntaf fel rheolwr.

Bydd ei gêm gyntaf fel rheolwr West Brom – sy’n 18fed yn y Bencampwriaeth – yn erbyn Middlesbrough nos Wener.


BBC News

Views: 0

See also  Elinor Snowsill frustrated with Welsh talent headhunted by England

Check Also

Teyrnged i ddyn, 25, fu farw yn ardal y Sioe Fawr

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn 25 oed a fu farw yn ardal y …

The New Saints to face Inter Club d’Escaldes if progress in Conference League

Following his side’s Champions League exit, boss Harrison said his players should not “feel sorry …

Bachgen, 16, yn ddieuog o geisio llofruddio athrawes

Cafodd y bachgen ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
jaguar xke e type engine resin.