google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen, 16, yn ddieuog o geisio llofruddio athrawes

Cafodd y bachgen ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, ac fe blediodd yn ddieuog i’r holl gyhuddiadau.

Yn ei thystiolaeth, dywedodd yr athrawes, Vicki Williams, fod y bachgen wedi ei dilyn i mewn i’w hystafell gan ofyn am help gyda’i waith hanes, cyn “hyrddio” ati gyda chyllell cegin fawr.

Roedd y bachgen, oedd yn 15 oed ar y pryd, yn mynnu nad oedd bwriad i’w thrywanu.

Dywedodd wrth y llys bod y gyllell wedi “mynd i bobman” wedi i Ms Williams weld rhywbeth yn ei fag ysgol a gorchymyn iddo i’w dynnu allan.

Bu’r ddau, meddai, yn “ymladd am ryw 10 eiliad” wrth iddo wrthod rhoi’r arf iddi, gan nad oedd eisiau mynd i drwbl am ddod â chyllell i’r ysgol.

Dywedodd na welodd y gyllell yn cyffwrdd â phen Ms Williams, ond ei fod yn derbyn fod hynny wedi digwydd.

Cafodd Ms Williams ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, cyn dod adref y noson honno.

Mwy i ddilyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Hanes Joseph Jenkins, y swagman o Dregaron

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime