google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Uned iechyd meddwl i famau newydd a’u babanod o Gymru wedi agor yng Nghaer

Advertisements

Mewn ymateb fe ddwedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd: “Mae’r wythnos hon yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gael yn nes i’r cartref ar gyfer merched yng Ngogledd Cymru.

“Cyn hyn, yn aml, roedd yn rhaid i ferched yr oedd angen eu derbyn i Uned Mamau a Babanod deithio pellteroedd hir i dderbyn gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys Manceinion a Birmingham.

“I lawer o deuluoedd – yn enwedig y rhai sy’n byw yng Ngogledd-orllewin Cymru -mae hyn wedi arwain at gryn her ar adeg sydd eisoes yn un anodd.

“Mae cyflwyno dau wely wedi’u clustnodi yn Seren Lodge yn cynrychioli gwelliant mawr o gymharu â threfniadau blaenorol ac mae’n ychwanegiad ystyrlon at brofiad gofal merched o Ogledd Cymru.

“Rydym wedi bod yn rhan o’r prosiect cydweithredol hwn o’r dechrau ac rydym wedi rhoi arweiniad gwerthfawr, yn enwedig mewn perthynas â defnydd a gwelededd o’r Gymraeg.

“Bydd merched a staff yn cael mynediad 24 awr i linell iaith Gymraeg, ac mae staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel rhan o’u sesiwn ymsefydlu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Gwasanaeth Amenedigol.

“Mae’r uned yn elwa ar arwyddion dwyieithog trwyddi draw, ac mae Tîm Gwasanaethau’r Gymraeg wedi rhoi cymorth o ran darparu llyfrau Cymraeg i fabanod.

“Mae cyfran o’r tîm yn medru’r Gymraeg, gan gynnwys dwy nyrs iechyd meddwl gofrestredig sydd â phrofiad sylweddol o weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl acíwt yn ein Bwrdd Iechyd.”


BBC News

Views: 2

See also  Diflaniad amheus eryr prin yn 'dorcalonnus' - Iolo Williams

Check Also

World Cu 2026: New Zealand’s Marko Stamenic aims to do late father proud

Marko Stamenic was eight years old when he sat down alongside his father to watch …

Garan and Ioan Croft: Twin aims of Welsh boxers

“We’ve always wanted to do better than each other,” says Welsh boxer Garan Croft as …

Barman raises a glass after £3.5m house win

Darren Summers thought he was being pranked when a caller rang to tell him. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
They also handle power only boat pulls, catering to multi boat transport needs, and even provide. rv transport alaska.