google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Artaith’ gorfod aros pedair blynedd i gael gwybod pam fod babi wedi marw

Advertisements

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl isod beri gofid.

Mae rhieni babi a fu farw ar ôl cyfres o fethiannau yn ystod ei enedigaeth yn dweud eu bod nhw’n dal i aros i gael gwybod beth ddigwyddodd iddo, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Bu farw Jacob ar ôl cael ei eni yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ym Mehefin 2022.

Roedd yn bedwar niwrnod oed.

Dyw’r cwest i’w farwolaeth heb gael ei gynnal ac felly mae ei rieni, Kianty a Conor Simpson o Sir Lincoln, yn dal i aros am dystysgrif marwolaeth.

Mae Crwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi ymddiheuro i’r teulu am yr oedi ac yn dweud bod achos Jacob bellach “yn flaenoriaeth”.

“All neb egluro sut mae’n teimlo i orfod tynnu’r sedd babi allan o’ch car neu dynnu’r arwydd yn dweud ‘babi yn y car’ oddi ar y ffenest cyn gyrru adre,” meddai Conor.

“Roedd yr holl brofiad yn drawmatig iawn.”

Roedd y cwpl yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro, oherwydd swydd Conor gyda’r fyddin pan gawson nhw wybod fod Kianty yn disgwyl babi.

“Roeddwn i wedi cael diwrnod gwael yn y gwaith… a fwya’ sydyn, fe wnaeth yr holl bryderon ddiflannu. Yr unig beth roeddwn i’n gallu meddwl amdano oedd bod yn dad,” eglura Conor.


BBC News

Views: 1

See also  150 mlynedd o'r 'gân serch orau erioed'

Check Also

Mwy o Gymraeg yn y dosbarth wrth i athrawon gryfhau eu sgiliau iaith

Ychwanegodd Meinir Ebbsworth fod yna diwtoriaid dysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg ymhob cwr o Gymru. …

House of the Dragon 3 work was surreal, says Welsh blacksmith

“I read Game of Thrones when I was younger growing up in the mountains,” Aaron …

Strictly star Amy Dowden unveils mini statue of herself in Caerphilly

Florist Nicola Downie dressed her shop window with Dowden’s face as part of the plans. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.