google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mwy o Gymraeg yn y dosbarth wrth i athrawon gryfhau eu sgiliau iaith

Ychwanegodd Meinir Ebbsworth fod yna diwtoriaid dysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg ymhob cwr o Gymru.

“Mae ysgolion yn gweld budd y Gymraeg, yn gweld budd y Gymraeg i’w staff, ond yn bwysicach na hynny hyd yn oed yn gweld budd y Gymraeg i’r plant a’r bobl ifanc yn eu hysgolion nhw.

“Mae’r galw wedi bod yn hyfryd, yn arbennig o gadarnhaol, a’r ymateb gan y staff yn gadarnhaol hefyd, oherwydd maen nhw’n datgan dau beth – fod nhw yn caffael y Gymraeg eu hunain fel oedolion, ond bod nhw’n cael eu harfogi ar sut i drosglwyddo’r iaith yn y dosbarth i blant a phobl ifanc.

“A’r hyn sy’n digwydd wedyn wrth gwrs yw bod y plant yn mynd adre’ yn defnyddio’u Cymraeg yn y cartre’, a’r rhieni a’r gofalwyr yn gweld yn eu tro budd y Gymraeg, ac yn gweld e fel mantais i’w plant nhw’n bendant iawn.”

Mae’r athrawon wedi dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn fwy hyderus i ddefnyddio’r iaith.

Ond y nod yn y pen draw ydy gwneud y disgyblion yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg wrth chwarae a gweithio.

Dywedodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gatholig Sant Joseff ym Mhenarth eu bod yn “hoffi dysgu Cymraeg”, a bod clywed yr iaith yn amlach yn ei gwneud hi’n haws i’w dysgu, a’u bod bellach yn “fwy hyderus” yn ei siarad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Vitality T20 Women's County Cup: Glamorgan beat Gloucestershire to reach round two

Check Also

DNA test for serial killer Levi Bellfield who claims he killed Lin and Megan Russell

Stone has twice been found guilty of the murders of Lin and Megan and the …

Wales captain Dewi Lake set to miss South Africa Test with groin injury

Elias is likely to make his Test start since the opening round of the 2024 …

Laura Hughes: Wales midfielder leaves Melbourne City for overseas move

Wales midfielder Laura Hughes has left Melbourne City with the Australian club revealing she is …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Register your business listing dial 7498540947. The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes.