google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 17 2026

Efeilliaid am ddychwelyd i’r sgwâr focsio a thargedu teitlau

Er eu bod bellach yn byw ac yn ymarfer yng ngogledd orllewin Lloegr, mae’r ddau frawd yn cymryd diddordeb yn y gamp ar lawr gwlad yng Nghymru.

“Mae’r talent yn rili dda,” meddai Ioan.

“‘Dan ni wedi bod yn lwcus i fynd mewn i cwpwl o camps tîm Cymru ac mae ‘na lot o dalent yn dod trwodd.

“Pryd oedda ni’n tyfu lan roedd lot just o de Cymru ond nawr mae bois o’r gogledd yn dod lan.

“Mae ‘na lot fwy o blant yn bocsio ac mae gym Aberteifi yn llawn.

“Felly mae’n neis i weld y diddordeb ‘na yng Nghymru.”

Roedd rhwng dau a thri chant wedi teithio o ogledd Sir Benfro i Altrincham ger Manceinion ym mis Ebrill i wylio’r efeilliaid yn ymladd yn eu gornestau cyntaf dan adain Matchroom.

Roedd Ioan yn fuddugol yn erbyn Novak Radulovic o Serbia cyn i Garan drechu Marco Simmonds o Loegr.

“Ma’ fe’n wych,” meddai Garan wrth sôn am y gefnogaeth derbyniodd y ddau y noson honno.

“‘Dan ni’n ddiolchgar i gael y cefnogaeth ni’n cael.

“Mae’n meddwl lot i ni ar y noson ac mae’n helpu pan ‘dach chi’n cerdded i’r ring.

“Chi’n gweld cwpwl o wybebau ‘dach chi’n nabod.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Bring in Dutch-style rail fare system in Wales, says expert

Check Also

Ple mam am aren ar Facebook yn arwain at rodd ‘anhygoel’ gan ddieithryn

Dywedodd gŵr Karen, Matthew y bydd y teulu wastad yn ddiolchgar am haelioni Gary. “Mae’r …

Cynllun Dechrau’n Deg yn ‘llinell goch’ yn y trafodaethau cyllideb – Llafur

Mewn cyfweliad â Walescast ar y BBC, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates: “Mae’n ymddangos …

'Anodd cynnal' hosbisau Cymru yn sgil sefyllfa ariannol 'fregus'

Hosbisau ledled Cymru’n wynebu costau a galw cynyddol wrth alw ar y llywodraeth am fwy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime