google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trwsio cloch Llanfihangel a dorrodd yn 1880

Trysorydd yr Eglwys, Rhian Davies oedd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn adrodd hanes y gloch.

“Mae tipyn o hanes i’r gloch.

“Cafodd ei neud draw yn Limerick yn 1686. Daeth e draw ar gwch i Aberystwyth ac wedyn ar gart a cheffyl i Lanfihangel.

“Fe gafodd hi ei roi ar ben y tŵr ac yna mae hi wedi bod yn hongian 50 metr i fyny’r tŵr.

“Yn 1880 roedd rhywun yn dathlu priodas ac yn teimlo nad oedd y gloch yn gwneud digon o sŵn, felly fe wnaethon nhw daro’r gloch gyda morthwyl sledge ac yn anffodus fe wnaeth dau ddarn ohono fe gwympo bant a nath y gloch byth ganu’n iawn ers hynny,” meddai.

Fe dyfodd Rhian fyny yn Abermagwr ger Llanfihangel, ac mae hi wastad wedi bod yn mynychu’r eglwys. Mae ganddi gof plentyn o’r gloch yn cael ei chwarae, a sŵn anarferol iawn yn dod ohoni.

Ond, mae degawdau wedi pasio ers i’r gloch gael ei chlywed diwethaf yn yr ardal.

“Roedd y gloch yn cael ei chanu tan tua’r 1980au, ond wedyn, oherwydd cyflwr y coed oedd yn dal y gloch, doedd e ddim yn saff i’w chanu hi rhagor,” meddai.


Source link

Views: 0

See also  Y tywydd a chostau cynyddol yn poeni busnesau

Check Also

Wales: ‘I remember like it was yesterday’ – Euro 2016 hero Hal Robson-Kanu

Hal Robson-Kanu reflects on scoring his iconic goal for Wales against Belgium at Euro 2016, …

Menyw o Sir Gâr yn canfod 38 parasit ar ei hymennydd ar ôl taith i India

Erbyn 2018 roedd Lowri’n teimlo’n ddigon cryf i symud i Gaerdydd a chwblhau gradd, ac …

‘Diffyg hyder’ gan athrawon ar bynciau ‘cymhleth a sensitif’ addysg rhyw

Mae ACRh yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer plant tair i 16 oed, ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
el obeid : explosions are heard. Solar product guides. Work varianza d3s 19'' with sport tires speedstar models.