google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Diffyg hyder’ gan athrawon ar bynciau ‘cymhleth a sensitif’ addysg rhyw

Mae ACRh yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer plant tair i 16 oed, ac mae’n cynnig addysg ar faterion fel perthynas, hunaniaeth, iechyd rhywiol, lles, diogelwch a pharch sy’n addas i blant yn ôl eu hoed.

Yn ôl yr adroddiad roedd angen mynd i’r afael gyda’r amrywiaeth yn hyder staff i addysgu’r pwnc.

Mae’r adroddiad yn dweud: “Roedd staff yn llai hyderus wrth addysgu themâu mwy cymhleth neu sensitif, fel rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, misogynedd, a normau niweidiol o ran rhywedd.”

Er hynny roedd llawer o ysgolion yn gweithio’n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion heddlu a sefydliadau cymunedol er mwyn eu helpu i ymateb yn effeithiol i bryderon a oedd yn dod i’r amlwg gan gynnwys misogynedd, ecsbloetio ar-lein, agweddau niweidiol at normau rhywedd a pherthnasoedd afiach.

Roedd bron pob disgybl gafodd eu holi gan Estyn mewn 30 ysgol wedi dweud eu bod nhw’n “teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu gofyn am gymorth pan roedd angen”.

Roedd pryder serch hynny am ddilyniant rhwng y sector cynradd ac uwchradd gan arwain at ddylbygu mewn rhai meysydd ac at fylchau mewn meysydd eraill.

Roedd amrywiaeth yn y gefnogaeth i ysgolion gan awdurdodau lleol a phwysau ariannol a phrinder amser hefyd yn cael effaith ar ansawdd y ddarpariaeth.

“At ei gilydd, roedd disgyblion yn elwa ar ddysgu a oedd yn briodol i oedran ac yn cyd-fynd yn dda â’u cyfnod datblygiadol”, meddai Estyn.


BBC News

Advertisements

See also  'Dydi canu'n Gymraeg ddim angen dal eich gyrfa yn ôl' - Mali Haf

Check Also

‘Y gymuned sy’ wedi helpu fi i ddysgu Cymraeg’

Mae Rhianydd yn canmol y gymuned sy’ wedi ei helpu yn ei thaith i fod …

Quiz: Lewis Koumas is the 11th Wales player to score in the Champions League – can you name the other 10?

Just three days after Lewis Koumas made his first Premier League start for Liverpool, the …

Y Brenin yng Nghaerdydd i agor seithfed tymor y Senedd yn swyddogol

Wrth i’r Brenin a’r Frenhines gyrraedd Caerdydd bydd cyfarchiad y Gynnau Brenhinol (21 rownd) i’w …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime