google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Brenin yng Nghaerdydd i agor seithfed tymor y Senedd yn swyddogol

Wrth i’r Brenin a’r Frenhines gyrraedd Caerdydd bydd cyfarchiad y Gynnau Brenhinol (21 rownd) i’w seinio y tu allan i’r Senedd.

Bydd y byrllysg seremonïol yn cael ei gario i’r Senedd a’i osod yn ei le fel arwydd o agoriad swyddogol y seithfed Senedd.

Cludwyr y Byrllysg fydd Delyth Lewis, rheolwr Senedd Ieuenctid Cymru, a Lukas Santos Evans, dirprwy glerc i bwyllgorau’r Senedd.

Yn wreiddiol o São Paulo ym Mrasil, symudodd Lukas Santos Evans i Gymru 10 mlynedd yn ôl.

Yn ymuno â nhw yn rhan o’r orymdaith bydd dau aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, sef Ffiôn-Hâf Scott, aelod a etholwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac Aryan Gupta, aelod dros Lanelli.

Y telynorion eraill yn y digwyddiad yw Arpe Dolce, sef y ddeuawd Angharad Wyn Jones a Dylan Cernyw, Dafydd Huw a Rhianwen Pugh.

Y tu allan i’r Senedd, wrth i’r Brenin a’r Frenhines adael, bydd Côr CFfI Cymru – sy’n cynnwys aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc ledled Cymru, ac yn dod â lleisiau o bob un o 16 etholaeth y Senedd ynghyd – yn canu Fel Hyn ‘Da Ni Fod gan Bwncath, sef y gân a ddewiswyd gan y mudiad i ddathlu hunaniaeth, cymuned a pherthyn yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Tribute to 'amazing' Jean Kitchen after Denbighshire crash death

Check Also

Crossrail costs soar by £20m and man 'fixated' on police officer

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Contraceptive coil ‘helped uncover my ovarian cancer’

When Caroline Bailey was suffering with sharp, stabbing pains in her stomach, she thought it …

Bridgend crime gang shooting targeted a young child, court hears

Two members of a major organised crime gang who fired shots into the wrong house …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime