google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Troseddwyr yn elwa drwy werthu teganau plant ‘ffug a pheryglus’

Advertisements

Mae gan Meg Goldberger, 27, tua 250 o deganau moethus Jellycat, ochr yn ochr â’i chasgliad newydd o 12 dol Labubu.

“Y mwyaf yr oedd pobl yn siarad amdanyn nhw, a’r mwyaf anodd aeth hi i gael nhw, y mwyaf o’n i eu hangen. Dyna pam mae gen i 12 nawr,” meddai.

Fodd bynnag, yn gynnar iawn yn y broses o chwilio am ddoliau swyddogol, dywedodd Ms Goldberger ei bod wedi sylweddoli bod cael gafael ar y teganau go iawn yn mynd i fod yn anodd.

Dywedodd ei bod wedi treulio tua 12 awr dros sawl diwrnod yn aros am lif byw siop Pop Mart ar TikTok, lle mae Labubus yn cael eu rhyddhau i’w gwerthu ar amser penodol, yn union fel tocynnau gig.

“Yn y gorffenol roedd y tegannau yn gwerthu allan o fewn munud. Nawr mae e mwy fel dwy eiliad yn llythrennol. Allwch chi ddim eu cael nhw,” meddai.

Yn lle hynny, dewisodd ddod o hyd i rywun oedd yn eu hailwerthu ar-lein, gan ddysgu hefyd pam y gallent fod wedi bod yn gwerthu allan mor gyflym.

Pan ofynnodd ailwerthwr eBay am brawf bod y gyfres benodol yr oedd hi â diddordeb ynddi yn ddilys, anfonwyd “sgrinlun o’r hyn a allai fod wedi bod fel bron i 200 o archebion o Labubus” at Ms Goldberger.

“Bydd y bobl hyn yn eistedd gartref yn hacio’r gwefannau ac yn eu prynu’n swmp, a dyna pam maen nhw’n mynd mor gyflym. Yna byddan nhw’n eu hailwerthu.”


BBC News

Views: 0

See also  Pleidleisio i ethol Aelod o'r Senedd Caerffili

Check Also

County Championship: Glamorgan and Leicestershire play out draw

Leicestershire started the day with a lead of 60 but started slowly as Glamorgan were …

Land speed record car Babs returns to beach for centenary

The car took to the sands of Pendine, 100 years after a Welsh racing driver …

Helpu rhedwr marathon: ‘Profiad fydd yn aros efo fi am hir iawn’

Mae Gwion sy’n byw yn Nhrawsfynydd, yn dad i ferch fach, Manw, sy’n ddwy a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime