google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Advertisements

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd yr M4 yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr heddlu bod car, oedd yn cael ei yrru gan ddynes 76 oed, wedi taro siop yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd wrth gyffordd yr M4 yn ardal Pontprennau.

Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty, gan gynnwys plentyn wyth oed a dyn 39 oed oedd yn cerdded, yn ogystal â gyrrwr y car.

Dywedodd Heddlu’r De eu bod yn deall nad oedd yr anafiadau yn rhai oedd yn peryglu bywyd, a’u bod wedi dechrau ymchwiliad i’r digwyddiad.

Mae’r llu yn apelio at unrhyw dystion i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 0

See also  Alan Sheehan: Swansea City head coach explains his ideal style

Check Also

Ateb y Galw: Edward Morus Jones

Mae’r cerddor Edward Morus Jones yn adnabyddus ers yr 1960au am ei ddeuawdau gyda Dafydd …

Comisiynydd: ‘Angen i’r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr fod yn fwy cyson’

Mae’r hyn sy’n cael ei ddarparu i fyfyrwyr yn Gymraeg ar draws Cymru yn anghyson, …

Diffyg coed ‘yn peri risgau iechyd’ i bobl trefi fel Caergybi

Mae sawl tref arfordirol ymhlith y llefydd yng Nghymru sy’n wynebu’r bygythiadau amgylcheddol mwyaf oherwydd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.