google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Leisa Gwenllian: ‘Stori pobl Blaenau yw hwn’

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae wedi cael ymateb positif iawn, gan gynnwys adolygiad yn The Guardian sy’n disgrifio hi fel ‘must-watch’.

Meddai Leisa: “Dwi’n meddwl bod yr ymateb wedi bod yn eitha’ annisgwyl i fi, ond dwi’n gwybod oedd y tîm creadigol o’r dechrau un yn ofnadwy o uchelgeisiol ac yn sicr iawn bod y ffilm yn mynd i gael ei gweld gan bobl tu hwnt i Gymru.

“Dwi’n meddwl yn amlwg mae’n ffilm i Flaenau, i’r gogledd ac i Gymru i gyd, ond dwi’n meddwl bod y cynhyrchydd Branwen (Cennard), yn ofnadwy o keen i ddangos y Gymraeg i bobl tu hwnt i Gymru.

“Mae’n fraint cael mynd i Glasgow i ddangos y ffilm i bobl eraill a wedyn cael adolygiad mor dda yn y Guardian. Dwi ddim yn meddwl oeddwn i’n disgwyl hynny. Felly gobeithio fydd hwnna yn gwthio’r ffilm yn ei flaen. Dwi yn awyddus iawn i bobl ei gweld hi.”

Mae’n stori sy’n agos iawn i galon Leisa, fel mae’n sôn: “Mae’n deimlad swrreal iawn bod fi wedi chwarae Effi mewn ffilm achos ges i’n nghyflwyno i’r ddrama am y tro cyntaf gan fy athro actio Cefin Roberts pan oeddwn i tua 15 oed, a ‘nes i wneud pwt bach ohoni hi yn yr Eisteddfod.

“Hefyd ‘nes i wneud darn o Effi yn y clyweliadau ar gyfer coleg drama. Felly o’n i wedi darllen y ddrama a ‘nes i ddisgyn mewn cariad efo’r cymeriad yr eiliad ‘nes i ddarllen hi ac o’n i wastad wedi edmygu gwaith Gary Owen.

“Felly mae jyst yn teimlo fath â gymaint o foment bod fi rŵan yn fy ugeiniau yn cael chwarae Effi.”

Mae’r ffilm mewn sinemâu o 19 Mehefin ymlaen ac mae yna ymddangosiad arbennig yn Cellb, Blaenau Ffestiniog ar 17 Mehefin.


BBC News

Advertisements

See also  Pair leave man on road after brutal attack and businesses asked to be vigilant to reduce theft risk

Check Also

Pwy yw hoff athro Maths Carol Vorderman sy’n genedlaetholwr ‘tanbaid’?

“Oedd Carol yn hogan hollol eithriadol. O’n i ddim yn gwybod digon o fathemateg i …

Anrhydeddu 'dewrder' yr 'arwres' – stori'r athrawes yn Aberfan aberthodd ei hun

Mae Paul Harries, a oroesodd drychineb Aberfan, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf …

Cadw mast 4G ar fy nhir yn ‘hunllef’ ac yn costio miloedd medd ffermwr

Mae bron i chwarter Cymru â diffyg darpariaeth 4G gan bob un o’r rhwydweithiau ffonau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime