google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Treth etifeddiant: Pennaeth undeb ‘ddim yn hyderus’ o weld newid

Mae’n annhebygol y bydd yna unrhyw newid i bolisi treth etifeddiant amaethyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl pennaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).

Dywedodd Guto Bebb, Prif Weithredwr grŵp UAC sydd hefyd yn gyn-Aelod Seneddol, fod yr undebau amaeth wedi gwneud gwaith aruthrol yn ceisio dylanwadu ar wleidyddion ers i’r polisi gael ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl, ond nad yw’n meddwl y bydd yna unrhyw newid.

“Mi faswn i yn awgrymu wrth aelodau UAC bod gweld newidiadau yn rhywbeth dwi ddim yn hyderus fydd yn digwydd,” meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn cefnogi ffermwyr gyda chyllideb sy’n “tyfu busnesau, yn sicrhau bod mwy o fwyd Prydeinig ar ein platiau ac yn helpu adfer natur”.


BBC News

Advertisements

See also  Cyhuddo dyn o geisio herwgipio mewn parc poblogaidd yng Nghaerdydd

Check Also

Maserati driver gets suspended sentence after killing woman in Pontypool crash

The court heard Dowling, from Caerphilly, was driving with his wife and their lifelong friend, …

Kieran Hardy: Wales and Ospreys scrum-half suffers lengthy injury blow

While Tomos Williams was the first choice for Wales at scrum-half in the 2026 Six …

Macsen Wledig a’r gaer Rufeinig sy’n ‘rhoi realiti’ i’r Mabinogion

Roedd Magnus Maximus, neu Macsen Wledig fel mae’n cael ei alw yng Nghymru, yn teyrnasu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime