google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn o geisio herwgipio mewn parc poblogaidd yng Nghaerdydd

3907e710 5a53 11f0 960d e9f1088a89fe.jpg

Advertisements

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio herwgipio yn dilyn cael eu galw i barc yng Nghaerdydd, meddai Heddlu’r De.

Ychydig cyn 12:00 ddydd Iau, Gorffennaf 3, aeth eu swyddogion i Barc Fictoria, Treganna, yn dilyn nifer o alwadau oedd yn codi pryderon ynghylch ymddygiad dyn yn yr ardal chwarae sblasio i blant yno.

Mae’r dyn 34 oed, sydd heb gartref sefydlog, wedi cael ei gadw’n y ddalfa.

Mae wedi ei gyhuddo o ddwy drosedd yn ymwneud a herwgipio a dwy drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus .

Dywedodd yr heddlu fod rhai pobl yn pryderu fod y dyn wedi bod yn tynnu lluniau neu’n recordio plant – ond ychwanegon nhw nad oedd ganddo unrhyw ddyfeisiadau o’r fath pan gafodd ei archwilio gan swyddogion.

Maen nhw hefyd yn apelio am unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad neu wedi gweld rhywbeth amheus i gysylltu gyda nhw.


BBC News

Views: 0

See also  80 mlynedd ers marwolaeth David Lloyd George

Check Also

Lucy Farrell: Wales squad member joins Wrexham Women

Adan Premier champions Wrexham Women have announced the signing of Welsh goalkeeper Lucy Farrell. The …

Cardiff teens arrested in Thailand prompting police probe

Two Welsh teenagers have been arrested in Thailand prompting a police investigation into the “circumstances” …

Dau fachgen yn ‘haeddu gwobr’ am helpu dyn sâl yn Tafwyl

“Fi moyn i’r ddau fachgen yma gael rhyw fath o wobr neu anrhydedd,” meddai Mr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport marion or. Heavy equipment transport allegheny pa. power only delaware.