google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2027

Nid oedd rhaid aros yn hir wedi dechrau’r ail hanner tan fod Cymru wedi dyblu’r fantais ar y noson.

Yn dilyn gwaith da lawr yr asgell chwith gan Mared Griffiths unwaith eto, llwyddodd Elise Hughes i daro’r bêl heibio’r golwr ger y postyn agosaf.

Gyda’r hyder yn llifo, bron i Sophie Ingle sgorio’r drydedd dau funud yn ddiweddarach ond roedd ei hergyd yn wastraffus o safle addawol.

Cafodd Mared Griffiths gyfle euraidd i sgorio wedi bron i awr o’r gêm hefyd ar ôl i’r bêl ddisgyn wrth ei thraed yng nghanol y cwrt cosbi, ond gyda’r un amddiffynnwr yn agos iddi fe darodd y bêl heibio’r postyn pellaf.

Daeth y drydedd yn y pendraw wrth i Hannah Cain daro’r bêl i mewn o bum llath ar ôl i’r golwr wyro croesiad Woodham i’w chyfeiriad.

Parhau i ymosod gwnaeth Cymru yng nghyfnod ola’r gêm – fe darodd Rachel Rowe y postyn gyda pheniad celfydd – ond roeddynt hefyd yn broffesiynol iawn y ffordd llwyddon nhw i rwystro Albania rhag creu unrhyw gyfleoedd gwirioneddol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Universities in Wales facing 'massive' financial challenges

Check Also

Gwynedd drug dealer Arthur Hughes has £80,000 of assets confiscated

A 75-year-old drug dealer has had more than £80,000 worth of his assets confiscated. Arthur …

River Taff fuel pollution spreads 2.5 miles from Taffs Well

People have been advised to keep their windows and doors shut due to a widespread …

Track Cycling World Championships: Emma Finucane will ‘come back fighting’ after narrowly missing gold in Shanghai

Emma Finucane said she will “come back fighting” for gold medals after narrowly missing out …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime