google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trefn cystadlaethau 19-25 oed yr Urdd yn parhau i godi cwestiynau

Advertisements

Ond mae Heledd Davies a Mari Roberts o Aelwyd Llundain ymhlith y rheiny sy’n credu na ddylid bod angen cystadlu yn y rhanbarth er mwyn mynd ymlaen i’r genedlaethol.

Dywedodd Heledd ei bod hi’n “eitha’ rhwystredig” gorfod mynd drwy’r rhanbarthau.

“Nes i ffeindio fo’n rili anodd achos o’dd llai o amser i baratoi,” meddai.

“Ond wrth adael i bawb gystadlu yn y genedlaethol, maen nhw wedi mynd yn erbyn eu stwff cychwynnol nhw [yr Urdd], sydd yn confusing hefyd.”

Ychwanegodd Mari fod y trefniadau newydd wedi cael effaith ar y gallu i gymryd rhan mewn cystadlaethau eraill.

“O’n ni am wneud deuawd ond o’dd dim amser gyda ni wneud o,” meddai.

“Arfer bod o’ch chi’n meddwl am yr Urdd ym mis Mai a gwybod pryd i gychwyn paratoi.”

Mae’r ddwy yn credu bod “caniatáu i bawb fynd drwodd yn creu gwell awyrgylch ac yn annog mwy i gymryd rhan”.

“Mae’n gwneud pobl eisiau ymuno a chystadlu, a dyna be dwi’n meddwl mae’r Urdd amdano,” meddai Heledd.

Er bod sawl myfyriwr wedi rhybuddio byddai llai yn cystadlu o ganlyniad i’r newid, dywedodd yr Urdd fod y newidiadau wedi arwain at gynnydd 15% yn nifer y cystadleuwyr unigol 19-25 oed o gymharu â’r llynedd, a’u bod yn “ymrwymo’n barhaus i wella a chryfhau’r cyfleoedd sydd ar gael i gystadleuwyr hŷn”.


BBC News

Views: 0

See also  Dyn yn honni iddo golli £13,000 ar gar ar ôl cael ei dwyllo

Check Also

Thunderstorm warning issued for Wales after heatwave

The Met Office says thunderstorms on Wednesday could lead to some disruption in parts of …

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws Cymru

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o …

Ched Evans: Fleetwood Town striker signs new one-year deal

Fleetwood striker Ched Evans has signed a new one-year deal. The 37-year-old rejoined the Cod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.