google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 24 2026

Dyn yn honni iddo golli £13,000 ar gar ar ôl cael ei dwyllo

Gall clonio ceir fod mor syml â dwyn rhifau cofrestru, ond mae’r math yma o dwyll wedi mynd yn fwy soffistigedig gan adael prynwyr ceir ail-law yn agored i niwed.

Dywedodd Mr Maljian, sy’n ffisiotherapydd a swyddog cymorth prosiectau gyda’r gwasanaeth iechyd, iddo weld y car trydan tair oed yn cael ei hysbysebu ar Facebook am y tro cyntaf ym mis Medi.

Ar ôl anfon neges at y gwerthwr, fe wnaethant gytuno ar “bris deniadol” pe bai’n talu ag arian parod.

Teithiodd i Lundain gan gyfarfod gyda’r gwerthwr y tu allan i orsaf Putney ar 5 Hydref, cyn gweld y car y tu allan i’r cyfeiriad oedd wedi’i restru yn ei dystysgrif cofrestru cerbyd DVLA V5C [llyfr log].

Fel rhywun sydd â diddordeb mewn ceir ac wedi prynu ceir ail-law o’r blaen roedd Mr Maljian yn credu ei fod wedi bod yn ofalus.

“Fe wnes i’r holl wiriadau sy’n cael eu hargymell gan y DVLA,” meddai wrth raglen You and Yours ar BBC Radio 4.

“Yn gyntaf, dechreuais drwy wirio’r MOT, ‘nes i wirio’r milltiroedd ac yna ‘nes i’r Total Car Check… dangosodd gyllid clir, HPI clir, dim damweiniau. Roedd yr holl fanylion yn cyd-fynd, gan gynnwys y milltiroedd, y lliw a manylebau’r car.”

Dangosodd y gwerthwr iddo hefyd yr hyn oedd yn ymddangos fel llyfr log dilys, ynghyd â dyfrnodau a dogfen adnabod gyfatebol.

“Doedd dim rheswm i gwestiynu,” meddai.


BBC News

Advertisements

See also  Cwis: Tipyn o Stad - BBC Cymru Fyw

Check Also

Football Association of Wales target more internationals at Wrexham’s Racecourse

Wrexham are looking to further develop the Racecourse with chief executive Michael Williamson stating that …

Petition for Sir Tom Jones to return to The Voice backed by Will.i.am

A spokesperson for The Voice previously said: “We have loved working with Sir Tom Jones …

Mum's £1.5m appeal to save son and apology for bin collections wait

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime