google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws Cymru

Advertisements

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru brynhawn a nos Fercher.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod posibilrwydd o law trwm iawn, mellt, cesair a gwyntoedd cryfion mewn rhai ardaloedd.

Mae’r rhybudd mewn grym rhwng 15:00 a 23:59 ac yn cynnwys y rhan fwyaf o siroedd Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r stormydd achosi llifogydd sydyn, problemau teithio a cholli trydan am gyfnodau byr.

Am 15:45 roedd bron i 700 o dai yng ngorllewin Cymru wedi colli eu cysylltiad trydan, gyda’r achosion gwaethaf yn ardaloedd Llanfyrnach, Pen-y-bryn ger Aberteifi, a Hendy-gwyn ar Daf.

Ond erbyn 17:00 roedd y nifer wedi gostwng i lai na 150.

Mae stormydd wedi cael effaith ar rwydwaith trenau de Cymru hefyd, gyda mellt wedi achosi difrod i signalau ger gorsaf Ffordd Treglarbes yn Sir Benfro.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y gallai achosi oedi i wasanaethau, neu orfodi rhai trenau i gael eu canslo.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi delio â thân mewn cartref yn ardal Slebets ger Hwlffordd oedd wedi’i achosi gan fellten, ond eu bod wedi gallu ei ddiffodd yn sydyn.


BBC News

Views: 1

See also  'Siopau lleol yn cynnig profiad personol, a basa'n bechod eu colli'

Check Also

Dog owner claims groomer sliced pet's nipple and superglued it back together

Tegan Williams says she was upset when her dog returned from her regular groomer with …

County Championship: Carlson leads Glamorgan to historic win over Surrey

Surrey began with a precarious lead of 145 but Glamorgan posted a relatively defensive field, …

Swansea City announce shake-up to backroom staff

Swansea City have named Jay Lefevre as their new head of recruitment, in addition to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link.