google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teithio’n bell i brynu cacen a thorth

93e0e330 2b37 11f0 b292 fd6559a197f5.jpg

Advertisements

Un sy’n gallu uniaethu â hyn yw Ceri Jones sy’n gweithio yn siop Popty’r Dref yn Nolgellau.

Mae’r siop yma wedi’i henwi ar restr La Liste 2024, sy’n rhestru rhai o fwytai a sefydliadau bwyta gorau’r byd.

Dywedodd Ceri ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru: “Mae ‘na bobl o dramor, pobl o Lundain yn teithio’n benodol i ddod i’r becws yma a rhai yn ffonio cyn y traffic a gofyn i ni gadw Hyni Byns iddyn nhw.”

Mae’n debyg mai’r deisen benodol yma sy’n rhannol gyfrifol am roi’r becws ar y map.

Nid mêl sydd yn y toes ond menyn a siwgr, sy’n gwneud iddi flasu’n felys.

Erbyn i Aled gyrraedd y becws i recordio’r bore hwnnw, roedd y siop wedi gwerthu allan o’r gacen yn barod.

“Mae’n non stop, dydan ni methu dal fyny efo’r Hyni Byns, mae nhw wedi clirio ni allan yn barod heddiw,” meddai Ceri.

“‘Naethon ni gael rhywun wsos dwetha wedi dod yn sbeshial i Ddolgellau i gael Hyni Byn tra oedden nhw ar y ffordd i fyny i’r gogledd.

“Ryda ni’n cael lot o bobl yn dod yma fel first port of call os ydyn nhw yn mynd fyny Cader Idris, mae nhw’n dod yma yn gyntaf i nôl brechdanau a Hyni Byn.”


BBC News

Views: 0

See also  Joe Cordina: Eddie Hearn says Welshman 'on verge of huge fights'

Check Also

Cyhuddo bachgen,14, o lofruddio wedi canfyddiad corff merch goll mewn parc

Mae ymchwiliad yr heddlu i’r achos – ac apêl am wybodaeth a lluniau CCTV – …

Rhedwraig o Fôn yn gobeithio am fedal yng Ngemau’r Gymanwlad

Bydd tîm Cymru yn cystadlu ar draws 10 camp wahanol gyda 67 o athletwyr benywaidd …

Cenedlaethau'r dyfodol 'mewn peryg' heb blannu mwy o goed

Er bod nifer y coed sy’n cael eu plannu yn cynyddu ar draws holl genhedloedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
car transport western us. Farm equipment transport massachusetts. heavy equipment transport brevard fl.