google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tanau LA: ‘Y simneiau sy’n gofgolofn i’r cymunedau a fu’

“Lle bynnag y’ch chi, ym mhob cornel o Los Angeles, mae arogl y tanau yn glir iawn ac mae’r mwg yn drwchus yn yr awyr.”

Mae’r gohebydd Rhodri Llywelyn yn Califfornia ar ran Newyddion S4C wrth i’r awdurdodau barhau i geisio diffodd tanau gwyllt dinistriol mewn gwahanol rannau o’r ddinas.

Erbyn ddechrau prynhawn Sul, amser y Deyrnas Unedig, roedd cyfanswm y meirw wedi codi i o leiaf 16 – y mwyafrif yn ardaloedd y tanau mwyaf difrifol sef Palisades ac Eaton.

Mewn dinas a phoblogaeth o bedair miliwn, mae dros 150,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae dros 12,000 o adeiladau wedi cael eu dinistrio.

Ond mae’r awdurdodau wedi gorfod rhoi cyrffyw mewn grym dros nos mewn mannau i atal achosion o ddwyn o gartrefi pobl sydd wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

Dywed y gwasanaethau tân eu bod wedi llwyddo hyd yn hyn i atal y fflamau rhag cyrraedd ardal freintiedig Brentwood, ond maen nhw’n rhybuddio bod y risg o dân yn dal yn uchel gan fod disgwyl i’r gwyntoedd cryfion ddychwelyd yn y dyddiau nesaf.


BBC News

Advertisements

See also  Tui Zante flight returns to Cardiff as airport closed

Check Also

Wales v Denmark: Norway win a ‘hand grenade’ in Nations League group – Craig Bellamy

“Basically the group’s exploded now between the three of us because obviously Denmark will look …

Fears for some Swansea schools as pupil numbers set to drop

A report for Swansea council said the demographic trend presented significant challenges for education planning, …

I interviewed Tennessee death row inmate Christa Pike 20 years ago

Pike grew up in Beckley, a small, working-class city in southern West Virginia, and her …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime