google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Taflu pobl allan o dafarn yng Nghonwy am ganu’n Gymraeg

Postiodd y cyflwynydd teledu a thywydd, Sian Lloyd, am y digwyddiad ar ei chyfrif X (Twitter gynt), gan ddweud: “Mae ffrindiau i mi newydd gael eu taflu allan am ganu yn eu mamiaith.”

Ychwanegodd ei bod yn “anodd credu bod tafarn o’r fath yn bodoli yng Nghymru”.

Ond dywedodd Mr Dunn: “Does gan hyn ddim i’w wneud â chanu yn Gymraeg.

“Rydyn ni’n cynnal noson meic agored ac mae gennym ni fandiau yn y dafarn ond roedd pobl jest yn dechrau canu.

“Pe baen nhw’n defnyddio vape tu mewn i’r dafarn fe fydden ni’n gofyn iddyn nhw adael – mae ‘na reolau tŷ.”

Dywedodd fod y porthor wedi gofyn i’r cantorion i adael ar ôl i Mr Dunn eu clywed tra’n gweithio yn y gegin.

“Roedden nhw’n canu’r anthem genedlaethol oedd yn hyfryd, felly fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw stopio ar ôl iddyn nhw orffen ei chanu.

“Roedd y porthor yn delio â’r peth. Daeth porthor arall i mewn o’r drws nesaf.”

Ychwanegodd Mr Dunn: “Mae’r dafarn er mwynhad pawb, a doedden nhw ddim yn cydymffurfio â chais rhesymol.”


Source link

Views: 0

See also  Welsh rugby crisis: Crunch WRU EGM vote to be held in April

Check Also

'Extremely difficult' funding decisions lie ahead, says new finance minister

Financial pressures “more challenging than I expected”, says Plaid’s new minister Elin Jones. BBC News …

How Tom Wheeler’s hospital dream transformed adaptive mountain biking

Since first creating his brace, Wheeler’s design has received global attention. “It became really super …

‘Heriau’ i gynghorau wrth geisio cyflwyno gofal plant am ddim

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn aros am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
They also handle power only boat pulls, catering to multi boat transport needs, and even provide. rv transport alaska.