Dywedodd Jo-anne, sydd bellach yn 22 oed, bob tro y byddai’n symud lleoliad fel plentyn mewn gofal, y byddai’n gwneud hynny gyda bagiau sbwriel du.
Ond mae yna un digwyddiad nad yw hi erioed wedi’i anghofio.
Rhoddwyd eiddo Jo-Anne mewn bag sbwriel tra’n symud, ac aeth ar goll.
“Roedd yna luniau o fy mrawd a chwiorydd. Wnaethon ni gael eu gwahanu cyn gynted ag aethon ni i mewn i ofal,” meddai.
Y lluniau hynny oedd yr unig beth oedd gan Jo-Anne ar ôl o’i theulu.
Fe wnaeth hi hefyd golli ei blanced babi yn ystod yr un digwyddiad.
“Mae hynny’n rhywbeth o gartref, mae hynny’n rhywbeth oedd yn golygu rhywbeth i fi, ond doedden nhw ddim yn gallu gofalu amdano ddigon i fi ei gadw.”
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!