google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Starmer ddim yn gwybod a fydd yn ymgyrchu yng Nghaerffili

Advertisements

Daeth sylwadau Syr Keir wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi cronfa ledled Prydain i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer mannau cyhoeddus a strydoedd mawr.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU £214m mewn cyllid newydd yng Nghymru, gan gynnwys £35m i 22 awdurdod lleol Cymru ei ddefnyddio dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd y byddai naw awdurdod – gan gynnwys Caerffili – yn derbyn hyd at £20m yr un.

Gofynnwyd i Syr Keir gan BBC Cymru a fyddai’n mynd i Gaerffili: “Dydw i ddim yn gwybod a ydw i’n mynd i Gaerffili. Mae’n amlwg yn dod yn fuan iawn ac mae gennym ni gynhadledd ein plaid yr wythnos nesaf”.

Pan ddywedwyd wrtho ei fod yn is-etholiad allweddol, ychwanegodd Syr Keir: “Fel y gwyddoch chi, rydyn ni yn Lerpwl yr wythnos nesaf, mae gennym ni gynhadledd fawr y blaid ar y gorwel.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ased etholiadol i’w blaid yno, ychwanegodd: “Rwy’n gweithio’n dda iawn gyda’r prif weinidog [Eluned Morgan], a chyn belled â’n bod yn parhau i hyrwyddo’r gwahaniaeth rydym yn ei wneud, dyna sy’n bwysig.

“Hyd yn oed heddiw yng Nghaerffili, rydym wedi cyhoeddi ein cronfa balchder bro, sef cyllid deng mlynedd i Gaerffili, a rheolaeth leol dros yr hyn y mae’r arian hwnnw’n cael ei wario arno.”

Mae polau piniwn diweddar wedi awgrymu bod Llafur yn drydydd yng Nghymru ar gyfer etholiadau’r Senedd nesaf ym mis Mai, gydag arolwg YouGov diweddar yn rhoi’r blaid ar 14%.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn poeni am fod yr arweinydd Llafur cyntaf i golli Cymru, dywedodd: “Wel, mae gennym ffordd bell i fynd cyn yr etholiadau hynny.

“Y peth pwysicaf yw bod yn gwbl glir o’r manteision enfawr o gael prif weinidog Cymru Llafur a phrif weinidog y DU Llafur yn gweithio gyda’i gilydd.”


BBC News

Views: 0

See also  I turn shrubs into dragons and peacocks

Check Also

George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor

Mae George North, 34, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd …

Beth yw hoff ymadroddion y Cymry?

Wedi i’r iaith Gymraeg chael ei disgrifio gan yr ieithydd Susie Dent fel yr iaith …

Jess Fishlock: Seattle Reign allay fears that Wales legend’s career could be over

The NWSL regular season is due to end on 1 November, with the play-offs to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.