google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Siopau llyfrau’n hanfodol bwysig ond yn fregus – adroddiad

Advertisements

Mae perchnogion siopau llyfrau’n dweud eu bod wedi gweld twf yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol yn dilyn y cyfnod clo gyda mwy yn darllen, neu fod mwy yn mynychu digwyddiadau mewn siopau llyfrau.

Mae arolwg y llyfrwerthwyr yn nodi ystadegau sy’n dangos, medden nhw, gwerth siopau llyfrau mewn trefi a dinasoedd.

Roedd pob siop a gymerodd ran yn yr arolwg yn cynnal digwyddiadau ar gyfer y gymuned leol.

Roedd 93% yn trefnu digwyddiadau gydag awduron yn bresennol, 71% yn cefnogi elusennau lleol, 64% yn trefnu ffeiriau llyfrau mewn ysgolion, a 57% yn rhedeg clybiau llyfrau neu grwpiau darllen.

Er bod y Gymdeithas Llyfrwerthwyr yn croesawu’r sefyllfa o ran llwyddiant siopau llyfrau ar y funud, maen nhw’n nodi fod gwerthwyr yn wynebu heriau.

Fel pawb arall ar y stryd fawr, mae costau’n cynyddu o ystyried cynnal busnes a threthi busnes.

Eu pryder yw y gallai hyn danseilio llwyddiant y siopau.


BBC News

Views: 1

See also  Cyn-brif weinidog wedi'i rwystro rhag pleidleisio o'r car

Check Also

Caio Ifans: Ex-Wales rugby star Garan Evans’ son signs Swansea City contract

His dad played full-back for the Wales rugby team, but Caio Ifans opted for the …

GPs to offer two new tests to help spot endometriosis

The saliva test, called Endotest, is already being used in a pilot NHS study, while …

Cymru Connection: Is Elis James linked to everyone in Wales?

James and Robins have worked together for more than a decade – firstly on XFM …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime