google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sefydliad y Merched yn dathlu 110 mlynedd

Advertisements

Ar 16 Mehefin 1915 gydag anogaeth gan y Cyrnol Stapleton Cotton, fe wnaeth grŵp o ferched, dan arweiniad Mrs Alfred Watt gyfarfod yn Llanfairpwll.

Dyma ffurfio cangen gyntaf Sefydliad y Merched ym Mhrydain.

Roedd rhaid aros tan fis Medi’r flwyddyn honno nes i’r cyfarfod agored cyntaf ddigwydd, ble etholwyd pwyllgor a hynny ym Mhlasty’r Graig yn Llanfairpwll.

Yn ogystal â bod yn aelod, mae Mrs Audrey Jones hefyd wedi ymchwilio’n drylwyr i hanes y Sefydliad.

Dywedodd: “Fe wnaeth Syr Horace Plunkett gyrraedd Caergybi o’r Iwerddon i annerch cyfarfod Cymdeithas Trefniant Amaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Hydref 1911.

“Roedd o’n canmol ei fod wedi ffurfio Cymdeithas Merched Gwyddelig Undebol oedd yn cysylltu Canada, Iwerddon a Phrydain Fawr.

“Cadeirydd y cyfarfod hwnnw ym Mangor oedd y Cyrnol Stapleton. Mae ei gysylltiad o reit bwysig i’r hanes.

“Yn 1913 daeth Mrs Alfred Watt. neu Madge, i Brydain o Ganada, roedd hi eisoes yn aelod o Sefydliad y Merched yn Ontario, ei syniad oedd i drio sefydlu rhywbeth tebyg yma dan enw Cymdeithas Trefniant Amaeth.

“Fe fethodd hi mewn sawl ardal, nes iddi ddod i Fangor a chwrdd â Chyrnol Stapelton, a’i syniad ef oedd y dylai’r mudiad ddechrau yng Nghymru.

“A dyna a fu, fe wnaeth roi Mrs Watt mewn cysylltiad efo merched lleol yn Llanfairpwll, a dyna’r cyfarfod cyntaf yn digwydd,” meddai.


BBC News

Views: 2

See also  Australia thump South Africa by 276 runs in third ODI - scorecard

Check Also

Cardiff’s National Museum closing is ‘realistic’ option, says boss

Richardson said if the National Museum Wales also closes, culture in Wales would not suffer …

What could Andy Burnham’s premiership mean for Wales?

A Welsh Labour source told BBC Wales that Welsh Secretary Jo Stevens and Welsh Labour …

Wales’ padel boom and why it’s here to stay

In the space of five years, Wales has gone from having no courts to having …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime