google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Saith awr heb weld babi ar ôl toriad cesaraidd wedi ‘trawmateiddio’ mam

Advertisements

Mae Catrin Hughes yn therapydd holistaidd sy’n arbenigo mewn beichiogrwydd a gofal ôl-enedigol.

Mae’n gweithio gyda menywod sy’n dioddef o symptomau corfforol ar ôl toriad cesaraidd, gan gynnwys creithiau sy’n teimlo’n dynn neu’n cosi, a menywod sydd wedi cael profiad trawmatig neu annisgwyl wrth roi genedigaeth.

Dywedodd fod llawer o’r menywod sy’n dod ati eisiau gwybod sut i ofalu am eu cyrff a’u creithiau wrth iddyn nhw wella.

“Dwi’n meddwl bod pobl yn gadael yr ysbyty weithiau efo ddim gymaint o glem sut i edrych ar ôl eu cyrff,” meddai.

“Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig edrych ar ôl y babi, ond hefyd iddyn nhw eu hunain gael bach o hyder i wybod sut i edrych ar ôl y graith.”

Er ei bod yn pwysleisio bod bydwragedd yn “trio eu gorau” ac yn helpu lle bynnag y gallant, mae’n credu bod angen edrych yn ehangach ar y ffordd mae’r system yn darparu gwybodaeth i fenywod ar ôl genedigaeth.

“Mae merched yn gadael yma yn teimlo bod nhw wedi cael lot fwy o wybodaeth – ac efallai’r wybodaeth dylen nhw fod wedi’i chael yn lot fwy buan na chyrraedd fi”, meddai.

Hoffai weld mwy o ganllawiau ac ymarferion adfer yn cael eu rhannu â menywod, yn ogystal â mwy o wybodaeth am ofalu am greithiau, trwy’r gwasanaeth iechyd.


BBC News

See also  Arweinydd Cyngor Caerffili, Sean Morgan, yn ymddiswyddo

Check Also

WXV: Megan Davey reignites international ambitions with Wales

Davey has primarily trained at scrum-half with Wales and faces competition from Keira Bevan and …

Ali Carter wins first English Open

England’s Ali Carter won the English Open in style with a 9-6 victory over Mark …

Cardiff man to be released from prison, 21 years after phone robbery

Introduced in 2005, IPPs were established to keep serious offenders, who were perceived to be …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime