google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

S4C yn penodi Geraint Evans yn brif weithredwr newydd

Mae S4C wedi penodi Geraint Evans yn brif weithredwr newydd y darlledwr.

Ers ymuno â’r sianel yn 2019 mae wedi bod yn Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes cyn dod yn Brif Swyddog Cynnwys dros dro.

Mae hefyd wedi gweithio fel newyddiadurwr gydag ITV Cymru ar raglen Y Byd ar Bedwar.

Mae S4C wedi bod yn chwilio am brif weithredwr newydd ers diswyddo Sian Doyle yn dilyn cyfnod cythryblus.

Cafodd Ms Doyle ei diswyddo ddiwedd 2023 yn dilyn honiadau o fwlio a “diwylliant o ofn” o fewn S4C.

Mae Sioned Wiliam wedi bod yn brif weithredwr dros dro, ond dywedodd ym mis Awst na fyddai’n ymgeisio am y swydd yn barhaol.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Cadeirydd dros dro S4C, Guto Bebb, bod gan Geraint Evans “gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt”.

Ychwanegodd bod ganddo “weledigaeth glir o’r llwybr sydd angen i S4C i’w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus”.

“Mae’n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i’r sianel gychwyn pennod newydd.”

Dywedodd Mr Evans ei bod “wir yn fraint i gael y cyfle i arwain sianel yr wyf wedi gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa”.

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd yn Ionawr 2025.


Source link

Advertisements

See also  Cynllun i'r Gymraeg ddod yn brif iaith addysg holl ysgolion Gwynedd

Check Also

Netball World Cup: Reinga Bloxham aiming to lead Wales to Sydney

Bloxham, who is affectionately known as “Curly”, has been explicit in her messaging to the …

Portugal v Wales quiz: Can you name the Wales XI who faced Cristiano Ronaldo and Co in Euro 2016 semi-final?

Wales face Portugal in the Nations League on Thursday – 10 years after the two …

Teen admits manor arson and dad dies on holiday

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime