google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Rôl fy mamiaith yn allweddol i’m hadferiad’ – Lleuwen Steffan

Advertisements

Mae hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y Stafell Fyw yn wahanol i lawer o wasanaethau eraill gan ei bod yn cynnig cymorth hirdymor, gan gydnabod bod dibyniaeth yn salwch cronig.

“Yn aml iawn, mae rhywun yn mynd i rehab neu’n cael saith sesiwn, ac wedyn mae’r therapi’n gorffen,” meddai.

“Ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw gwasanaeth hirdymor i’r unigolyn – a dyna beth mae’r Stafell Fyw yn ei gynnig.”

Er mai elusen yw’r Stafell Fyw, nid yw’n derbyn yr un lefel o gyllid â rhai elusennau mwy, sy’n golygu bod angen codi arian yn barhaus i gynnal y gwasanaethau.

“Mae gwaith i’w wneud o ran codi arian i’r Stafell Fyw a’r holl wasanaeth mae’r elusen yn ei gynnig i gynifer o bobl,” meddai.

Yn ganolog i’w neges fel llysgennad, mae Lleuwen yn awyddus i newid y ffordd mae cymdeithas yn edrych ar ddibyniaeth.

“Mae’n bwysig i bobl sylweddoli mai salwch ydi dibyniaeth,” meddai.

“Nid ewyllys person sy’n ei wneud yn gaeth, ond y salwch ei hun.

“Mae’n salwch meddyliol ac emosiynol ond yn salwch ysbrydol yn bennaf.

“Trwy fod yn llysgennad dwi’n gobeithio gallu pasio’r neges honno ymlaen i bobl eraill.”

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.


BBC News

See also  The Social Network follow-up has a new title and release date

Check Also

Canlyniadau profion addysg PISA Cymru yn waeth na gweddill Prydain eto

Ond mae rhai arbenigwyr wedi cwestiynu gwerth y profion a’r dylanwad mae PISA wedi’i gael …

Pwy oedd y pedwar arall yng nghysgodion Tri Penyberth?

Roedd JE Jones hefyd yn athro ac roedd yntau wedi treulio amser i ffwrdd yn …

Saith awr heb weld babi ar ôl toriad cesaraidd wedi ‘trawmateiddio’ mam

Mae Catrin Hughes yn therapydd holistaidd sy’n arbenigo mewn beichiogrwydd a gofal ôl-enedigol. Mae’n gweithio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime