google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Rocky Marciano, a ddechreuodd ei yrfa focsio yng Nghymru

Mae sawl stori am gyfnod Rocky Marciano yn Abertawe, ond efallai’r enwocaf yw digwyddiad yn un o dafarndai hynaf y ddinas sydd bellach wedi cau – Yr Adelphi.

Roedd Marciano yn y dafarn gyda grŵp o ffrindiau pan ofynnodd am wydraid o lefrith. Wrth y bar ar y pryd roedd milwyr o Awstralia, gan fod nhw hefyd wedi eu lleoli yn Abertawe.

Trodd un o’r milwyr o Awstralia at Marciano gan ofyn “hey kid, is milk strong enough for ya?”

Roedd Marciano’n dechrau gwylltio gan fod y milwr o Awstralia’n gwneud hwyl am ei ben, ac yn gweld hyn fe gymrodd ei ffrindiau gam neu ddau yn ôl, yn rhagweld beth oedd am ddigwydd.

Camodd Marciano ymlaen gan daflu un dyrnaid i ên y milwr o Awstralia, a’i lorio’n syth.

Yn siarad gyda newyddiadurwr flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Marciano: “The Aussie finished up in his warm beer. The pub was called The Adelphi. I wrote the name down, just in case the Aussie had anything to say about the matter.”


BBC News

Advertisements

See also  Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-4 Yr Eidal

Check Also

Code cracked for Margam shipwreck padlock solving 400-year-old mystery

Dr David Williams, a research associate based at Cardiff University’s School of Engineering, said he …

Swansea City: Stephen Welsh knee injury adds to misery at Portsmouth

Matos said he was unsure what sparked the melee because he was “already inside”. But …

Voters 'duped' over Covid inquiry and arsonists torched three homes

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime