google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar Ddiwrnod Nadolig

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o Gymru ar Ddiwrnod Nadolig.

Mae’r rhybudd mewn grym o 04:00 i 23:59 ddydd Iau.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion o’r dwyrain i’r gogledd-ddwyrain drwy gydol y dydd, gyda hyrddiau o 45-55 mya, a hyd at 65 mya mewn rhai ardaloedd arfordirol.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai achosi problemau i gerbydau tal, toriadau trydan byr dymor, ac effeithio ar ardaloedd arfordirol oherwydd tonnau mawr.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i’r awdurdodau lleol canlynol yng Nghymru:

  • Blaenau Gwent

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Gwynedd

  • Ynys Môn

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Abertawe

  • Torfaen

  • Bro Morgannwg


BBC News

Advertisements

See also  World Cup 2026: Ex-Arsenal midfielder Thomas Partey in preliminary Ghana squad

Check Also

Cyhuddo dyn 65 oed ar ôl i ddyn arall ddioddef ‘anafiadau difrifol’

Mae dyn 65 oed wedi’i gyhuddo o anafu gyda bwriad a chael cyllell yn ei …

Anglesey campaigners claim Wylfa power station could be nuclear attack target

Campaigners have warned plans for the UK’s first small modular reactor power station on Anglesey …

Newport man admits murdering Charlene Dowsell who was stabbed in back

A man has admitted murdering a mum-of-four by stabbing her in the back following a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime