google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd melyn am stormydd brynhawn Sadwrn

Mae disgwyl glaw trwm ar hyd rhannau helaeth o’r wlad brynhawn Sadwrn, gyda mellt a tharanau hefyd yn bosib mewn mannau.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau sy’n dod i rym am 13:00 ddydd Sadwrn, ac yn dod i ben am 20:00.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i 16 o siroedd Cymru – Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae arbenigwyr yn dweud y gallai rhwng 20-30mm o law ddisgyn ar draws ardal y rhybudd, ac y gallai hyd at 40-50mm ddisgyn mewn rhai mannau.

Fe allai’r tywydd garw arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr yn ogystal ag effeithio ar gyflenwadau trydan.


Source link

Advertisements

See also  Cwmbran pub landlord must tear down decking and play area

Check Also

Trecco Bay caravans for neurodivergent children may be forced to close

Flewers ended up owning four caravans and bookings would be taken up to two years …

Kinnock yn cyhuddo Llywodraeth Cymru ‘o ddal buddsoddi’n ôl’

Fe ddefnyddiodd Stephen Kinnock ei araith hefyd er mwyn galw am ddatganoli mwy lleol o …

Welsh father and son both crowned Sheep Dog World Trials champions

The first father and son to both be crowned champions at the Sheep Dog World …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime