google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd am law trwm a gwynt ar draws Cymru

Advertisements

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gellir disgwyl cyfnodau o law trwm ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.

“Fe allai y cyfnodau o law trwm arwain at lifogydd ar rai ffyrdd ac mewn adeiladau,” medd llefarydd.

“Fe fydd cyfnodau o law trwm o 12:00 ddydd Sul a chyfnodau hwy o law ddydd Llun.”

Mae hyd at 40mm (1.6 modfedd) o lawiad yn debygol a hyd at 70mm (2.8 modfedd) ar dir uchel.

Mae yna rybudd hefyd am wynt ar draws Cymru tan 17:00 ddydd Sul lle gellir disgwyl hyrddiadau o hyd at 60mya a hyd at 70mya ar yr arfordir a’r bryniau.

Mae rhybudd arall am wynt mewn grym o 06:00 ddydd Llun tan 06:00 fore Mawrth ymhob un o siroedd Cymru heblaw am siroedd Dinbych, Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn.

Ddydd Gwener bu llawer o ysgolion ar gau yn sgil gwyntoedd cryfion Storm Éowyn.


BBC News

Views: 0

See also  Fewer Christmas hospital admissions expected as flu rate slows

Check Also

Galw am newid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ag ond traean o ffermwyr Môn

Fe benderfynodd Brian Bown, o fferm Trewyn ger Llannerch-y-medd, ei fod am ymuno â’r cynllun. …

Galw am ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o lygredd gwenwynig

Mae yna alw am ymchwiliad cyhoeddus i ddiogelwch cyfres o safleoedd lle y cafodd gwastraff …

One Day Cup: Glamorgan take positives from youngsters’ progress

Hope-Bell, Edwards and Wallace made first team debuts, as did batter Callum Nicholls, 22, and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime