google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhun ap Iorwerth: Plaid Cymru yn mynd o argyfwng i gipio grym

Advertisements

Astudiodd Rhun ap Iorwerth wleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio yn 1993 gyda gradd anrhydedd ail ddosbarth adran 2 (2:2).

Bu hefyd, yn y cyfnod yn pontio ysgol a choleg, yn canu a chwarae’r gitâr mewn band Cymraeg byrhoedlog o’r enw 69 – enw a ddewiswyd mae’n debyg i nodi gwrthwynebiad i goroni Charles yn dywysog Cymru.

Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, a bu’n ohebydd adnabyddus yng Nghymru gan adrodd ar ddigwyddiadau gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio.

Bu’n gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o’r Bae ar Radio Cymru, ac ar Newyddion S4C, ynghyd â rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon’s Eye.

Mewn corwynt gwleidyddol cyn isetholiad Ynys Môn yn 2013, rhoddodd y gorau i weithio i’r BBC yn sydyn ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.

Roedd y sedd yn wag yn dilyn penderfyniad gan gyn-arweinydd y blaid Ieuan Wyn Jones i adael siambr y Senedd i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc.

O ystyried ei rôl ddiduedd flaenorol gyda BBC Cymru, fe wnaeth y cam dramatig ysgogi cwestiynau gan reolwyr y gorfforaeth.

Wedi ennill yr isetholiad yn argyhoeddiadol, buan iawn y dechreuodd y dyfalu a oedd wyneb newydd Bae Caerdydd â’i fryd ar arwain Plaid Cymru rhyw ddydd.

Daeth ei gyfle cyntaf bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2018, pan chwyrliodd sibrydion am heriau posibl i arweinyddiaeth Leanne Wood, pan oedd rhai o fewn eu rhengoedd yn teimlo bod y blaid mewn rhigol.

Mewn cyfweliad teledu, dywedodd Ms Wood y byddai’n croesawu her.

Lansiodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth eu hymgyrchoedd ar yr un diwrnod, ac yn y pendraw cafodd Adam Price 49.7% o’r pleidleisiau, Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood 22.3%.


BBC News

Views: 0

See also  Elfyn Evans yn ennill Rali Sweden eto ac yn arwain tabl y byd

Check Also

Carcharu dynes o Wynedd am ddwyn miloedd gan gwsmeriaid i dalu am wyliau

Clywodd y llys fod Kelly Kershaw wedi ffugio llofnod dyn oedd ag anableddau dysgu, a …

Boy, 15, denies attempted murder of teacher after stabbing

The boy, who cannot be named due to his age, will stand trial on 6 …

Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw

Eluned Morgan yw’r prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link.