google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Galar am blentyn byth yn eich gadael… ond cefnogaeth ar gael’

Bu farw Gwilym Ioan Rees-Webb, mab Wiliam Rees a Brooke Webb, ar noswyl Nadolig 2025, yn ddim ond 11 diwrnod oed.

“Gwilym yw ein babi cyntaf, ac roedden ni mor gyffrous i’w gyfarfod,” meddai Wiliam.

“Roedden ni’n ei eisiau a’i garu’n fawr ymhell cyn iddo gyrraedd.

“Cafodd ei eni’n iach, yn pwyso 9 pwys, ac roedd yn hollol berffaith.

“Er mai dim ond 11 diwrnod gawson ni gydag e, newidiodd ein bywydau am byth. Yn yr amser byr yna, daeth e â chymaint o gariad a hapusrwydd i’n bywydau.”

“Mae’r atgofion hynny’n rhywbeth y byddwn ni’n eu trysori am byth.”

Yn ôl y teulu mae’r profiad wedi gadael ôl parhaol ar bob agwedd o fywyd.

“Mae colli ein mab wedi newid pob rhan o’n bywydau, ac mae’r galar yn rhywbeth na ddylai neb orfod ei wynebu,” meddai.

“Ar adeg pan ddylen ni fod yn dathlu camau cyntaf Gwilym a’i wylio’n tyfu i fyny, mae’n rhaid i ni ddysgu sut i fod yn rhieni iddo mewn ffordd gwahanol.”


BBC News

Advertisements

See also  Has the fear of being filmed changed clubbing for Gen Z?

Check Also

Murder-accused and teen had ‘beef’ before fatal stabbing – court

A man accused of murdering a teenager along with three others had been involved in …

Bachgen, 6, wedi disgyn o’i feic cyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy – cwest

Mewn teyrnged ar dudalen i godi arian i’r teulu wedi’r digwyddiad, cafodd Harrison ei ddisgrifio …

Josh Windass: Wrexham ease fears over forward’s injury

Josh Windass will miss Wrexham’s Championship fixture against West Bromwich Albion, although manager Phil Parkinson …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime