google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rheolau Brexit yn ‘hunllef’ i ddiwydiant creadigol Cymru

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Peredur ap Gwynedd bod rheolau a chyfyngiadau’r Undeb Ewropeaidd yn “hunllef i’r diwydiant creadigol”.

Yn ôl y cerddor, mae bandiau ar draws y DU yn “rhwystredig” gyda’r gofynion ychwanegol i deithio ar draws Ewrop, a bod Brexit ond yn fuddiol i’r rheini sydd â phasbort UE.

“Wrth gwrs ma’ ‘na bobl yn sôn am Brexit benefits ond ma’r benefits ‘ma i’r bobl sydd â phasbort UE… ma’ ‘da fi ffrindiau sydd yn Ffrancwyr, er enghraifft, a nhw sy’n ca’l y gwaith i gyd.”

Mae disgwyl i weithwyr creadigol y DU sy’n teithio yn yr UE gael fisa a thrwyddedau gwaith, sy’n golygu mai dim ond am hyn a hyn o ddyddiau y caiff artistiaid weithio ar y cyfandir.

Fe all hyn arwain at golledion incwm i sawl artist, yn ôl adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, wrth i rai orfod teithio nôl i’r DU rhwng perfformiadau i adnewyddu fisâu neu aros o fewn terfyn 90 diwrnod ardal Schengen.

“Ry’n ni fel band yn ddigon lwcus ein bod ni’n gallu torri’r 90 diwrnod hwnnw yna yn hanner – ni’n gallu teithio i America ac Awstralia,” medd Peredur.

“Ond dyw bandiau ddim yn teithio ac os dy’n nhw ddim yn teithio, maen nhw’n colli eu swyddi.”


Source link

Views: 0

See also  Pwy oedd yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews?

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa kit. elfbar elfliq liquid.