google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwy oedd yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews?

Advertisements

Cafodd hi ei geni yn Hirwaun yn 1882 ac mae hi’n enwog am frwydro dros hawliau merched a phlant ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd hi’n un o 11 o blant mewn teulu oedd yn byw mewn tlodi yn ardal glo de Cymru.

Breuddwyd Elizabeth oedd i fod yn athrawes ond roedd rhaid iddi adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed er mwyn helpu ei rhieni.

Roedd hi’n siarad Cymraeg ac yn benderfynol o ddod ag anghenion menywod dosbarth gweithiol i’r byd gwleidyddol. Roedd hi’n sosialwraig.

Symudodd i’r Rhondda yn 26 oed ac yno gwelodd y problemau cymdeithasol oedd yn wynebu ei chymuned.

Hi oedd y fenyw cyntaf i fod yn drefnydd Plaid Lafur Cymru. Roedd hi hefyd yn un o’r menywod cyntaf i fod yn ynad ym Mhrydain.

Roedd hi’n wraig i löwr ac felly roedd hi’n gwybod pa mor beryglus oedd y diwydiant i’r dynion. Ond dywedodd fod bywydau menywod mewn perygl hefyd wrth iddynt fyw gyda tai gorlawn, iechyd gwael a phlant oedd yn marw’n ifanc.

Roedd hi wedi helpu y glowyr yn ystod y Streic Gyffredinol yn 1926 ac yn ystod y dirwasgiad yn yr 1930au.

A gan nad oedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS), roedd Elizabeth hefyd wedi helpu gwella gofal mamolaeth a gofal plant, gan sefydlu gwasanaeth clinigau, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac un o’r ysgolion meithrin cyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd menywod eraill yn adnabod hi yn syml iawn fel Ein Elizabeth.

Bu farw yn Tonpentre yn 1960.

Gallwch ddarllen mwy am y menywod ar wefan Merched Mawreddog


BBC News

Views: 1

See also  European Athletics Indoor Championships: 2025 will be 'best year of my life', says Jeremiah Azu

Check Also

Tudur Owen: Taith i warchod enwau lleoedd Cymraeg

Bu Cyngor Gwynedd yn trafod gwarchod enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau yn ddiweddar, gan gefnogi …

Rhian Wilkinson: Out-of-contract Wales players have put themselves in shop window

Another Wales forward, Tianna Teisar, is also currently without a club. Bristol City Women announced …

World Cup of Darts: Wales, Republic of Ireland and hosts Germany advance

Wales pairing Jonny Clayton and Nick Kenny continued their impressive start to the World Cup …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In the case, you are on this page occassionally, here is some info about the vastoftools website :. Wurden die personenbezogenen daten öffentlich gemacht und ist unser unternehmen als verantwortlicher gemäß art. 8010 via sardinia way 4215, estero, fl, 33928 properties coconut point residences.