google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Tudur Owen: Taith i warchod enwau lleoedd Cymraeg

Bu Cyngor Gwynedd yn trafod gwarchod enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau yn ddiweddar, gan gefnogi galwad am enwau Cymraeg yn unig ar fapiau Ordnans.

Bryd hynny, dywedodd llefarydd ar ran yr Arolwg Ordnans bod cynnydd wedi bod yn nifer yr enwau Cymraeg a’u bod, er enghraifft, wedi cefnogi gwaith diweddar o fabwysiadu enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer llynnoedd yn Eryri.

Ychwanegon nhw: “Mae cynrychiolaeth gywir o enwau lleoedd, gan gynnwys enwau dwyieithog os yw’r ddau’n cael eu defnyddio, yn hanfodol ar gyfer cyflwyno cynhyrchion mapio o ansawdd uchel i’r cyhoedd a chefnogi’r llywodraeth a’r gwasanaethau brys.

“Ni all Arolwg Ordnans benderfynu ar ei ben ei hun i newid enw.

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a pharciau cenedlaethol i nodi beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi’r iaith Gymraeg yn ein mapio.”

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod “enwau lleoedd Cymraeg yn rhan greiddiol o hanes cyfoethog ein tirwedd a’n cymunedau.

“Mae eu parchu a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn hollbwysig, felly byddwn yn ystyried yn ofalus sut y gall deddfwriaeth eu gwarchod.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Girls hurt in crash and woman 'wakes to attacker'

Check Also

‘Fi’n talu’n ôl i bobl Caernarfon am dderbyn outsider fel fi’

Mae’n dweud ei fod yn elwa o boblogrwydd prynu dillad ail-law, wrth i bobl symud …

Dan Watts: Exeter sign midfielder from Swansea City on loan

Exeter have signed midfielder Dan Watts from Championship leaders Swansea on a season-long loan. The …

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime