google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr’

Mae dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon wedi galw am wneud hi’n orfodol i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr, fel yn ysgolion Lloegr.

Yn ôl Steffan Howells, sydd bellach yn lysgennad i elusen Calon Hearts Cymru, gallai cael un wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru gofnod o ba ysgolion sydd â’r dyfeisiau achub bywyd.

O’r rheini sydd â chofnod mae’n ddarlun cymysg – gyda’r nifer ar ei uchaf yng Nghaerffili lle mae gan 97% o ysgolion ddiffibrilwyr, ac ar ei isaf yn Sir Gaerfyrddin lle mae diffibrilwyr mewn 15% o ysgolion y sir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig diffibriliwr” a’u bod yn gweithio i gynyddu’r nifer mewn cymunedau.


Source link

See also  Children's car seat and rubber ducks found in beach clean-up

Check Also

Gareth Anscombe: Scarlets hope fly-half debut against Dragons after paperwork issue

Scarlets hope Gareth Anscombe can make his debut against Dragons on Friday after a registration …

Clwb Rygbi Caernarfon yn ennill gwobr Cegin Rygbi’r Flwyddyn

Mae’r gegin yn brysur iawn ar benwythnosau, gyda’r clwb yn bwydo tua 50 o chwaraewyr …

Ateb y Galw: Maryam Khan

Dydd Mercher diwethaf fe gychwynnodd gyfres newydd o’r rhaglen newyddion i bobl ifanc ‘Newyddion Ni’ …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime