google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Clwb Rygbi Caernarfon yn ennill gwobr Cegin Rygbi’r Flwyddyn

Advertisements

Mae’r gegin yn brysur iawn ar benwythnosau, gyda’r clwb yn bwydo tua 50 o chwaraewyr ieuenctid ar nos Wener a channoedd o blant a phobl ifanc dros y penwythnos, yn ôl Keith Parry.

“Mae ‘na gymaint yn mynd ymlaen yma ar y penwythnos,” meddai.

Mae Keith wedi gwirfoddoli gyda’r clwb ers mwy na 50 mlynedd ac mae’n arwain y gegin gyda thîm o wirfoddolwyr.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod tua 50 o chwaraewyr ieuenctid i’w bwydo ar nos Wener, cyn i’r ‘minis’ chwarae fore Sul gyda rhyw 130 neu 140 ohonyn nhw’n bresennol.

Ychwanegodd fod tua 130 o chwaraewyr ifanc eraill yn chwarae yn y prynhawn, mewn sesiynau ar gyfer merched y mae’r clwb yn eu galw’n ‘fôr ladron’.

Mae’r fwydlen fel arfer yn cynnwys “pitsas, hot dogs a sglodion, jacket potato efo beans a chaws”, yn ogystal â phrydau fel “pasta bake, chilli con carne a bolognese.”

“Rhywbeth ‘da ni’n gallu neud mewn bulk ‘de,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd y clwb yn gwybod pwy oedd wedi’i enwebu ar gyfer y wobr.

“Doedden ni ddim yn gwybod pwy sy’ ‘di rhoi ni ‘mlaen amdano fo, doedd gynnon ni ddim cliw, so roedd o’n sioc i ni hefyd!”

Mae’r wobr hefyd yn cynnwys cyflenwad o offer rygbi gan Rhino Rugby.


BBC News

See also  Champion of Champions: Mark Williams beats Neil Robertson to reach final against Xiao Guodong

Check Also

Disgwyl rhyddhau dyn gafodd ei garcharu am 21 mlynedd am ddwyn ffôn

Cafodd dedfrydau IPP eu cyflwyno yn 2005 er mwyn gallu cadw troseddwyr difrifol, oedd yn …

WXV: Megan Davey reignites international ambitions with Wales

Davey has primarily trained at scrum-half with Wales and faces competition from Keira Bevan and …

Ali Carter wins first English Open

England’s Ali Carter won the English Open in style with a 9-6 victory over Mark …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime