google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhai ysgolion wedi cau yn dilyn llifogydd

Advertisements

Dywedodd Vicky Sheffield o dafarn The Gatehouse yng Nghwmbwrla, fod y llifogydd yn “waeth” nag yr oeddent chwe wythnos yn ôl.

“Mewn 26 mlynedd nid yw hyn erioed wedi digwydd o’r blaen ac mae bellach wedi digwydd ddwywaith mewn chwe wythnos. Mae’n eithaf brawychus.”

Nos Fawrth dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wella’r sefyllfa o gwmpas cylchfan Cwmbwrla.

“Mae’r cylfat o dan glwb Cwmfelin yn dal i fod wedi blocio a dyma yw’r brif broblem,” medd llefarydd.

“Yn y cyfamser, rydym wedi dod ag offer pwmpio i mewn i gynorthwyo llif y dŵr.

“Fodd bynnag, mae glaw trwm a pharhaus yn golygu efallai bod gormod o ddŵr i’r offer pwmpio ac efallai y bydd yn rhaid cau’r ffordd nes bod y gwaith trwsio wedi digwydd.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.”


BBC News

Views: 1

See also  Record newydd yn cael ei osod ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd

Check Also

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws Cymru

Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o …

Ched Evans: Fleetwood Town striker signs new one-year deal

Fleetwood striker Ched Evans has signed a new one-year deal. The 37-year-old rejoined the Cod …

Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.